Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar

Anhwylderau Bwyta

5 Rhagfyr 2023, 09:30 – 11:00

Microsoft Teams

 

Yn bresennol

 

·         Sarah Murphy, AS

·         Jo Whitfield, Beat

·         Brandon Renard, Staff Cymorth yr Aelodau

·         Sarah Tombs, BIP Cwm Taf Morgannwg - Gwasanaeth Allgymorth Anhwylderau Bwyta

·         Nia Holford, BIP Cwm Taf Morgannwg

·         Tamsin Speight, Gweithrediaeth y GIG

·         Tracey Elizabeth, BIP Cwm Taf Morgannwg - CAMHS

·         Carole Philips

·         Natalie Chetwynd, BIP Hywel Dda - Arweinydd Clinigol Anhwylderau Bwyta Haen 3

 

·         Donna Mason, Mental Health Matters

·         Martin Ball

·         Rhys Hughes, Staff Cymorth yr Aelodau, Swyddfa Rhun ap Iorwerth

·         Joshua Beynon, Gweithrediaeth y GIG

·         Emily Hearne, Staff Cymorth yr Aelodau, Swyddfa David Rees

·         Isabella Jurewicz, BIP Caerdydd a'r Fro - CHMT


 

1.  Croeso ac ymddiheuriadau

Croesawodd Jo bawb i'r cyfarfod ac eglurodd fod Sarah Murphy wedi cael ei dal mewn traffig trwm ac y byddai'n ymuno cyn gynted ag y gallai.

Cafwyd ymddiheuriadau gan:

  • Mike Hedges AS
  • Rhun ap Iorwerth AS
  • David Rees AS
  • Dewi Druce-Perkins, BIP Cwm Taf Morgannwg - Gwasanaeth Allgymorth Anhwylderau Bwyta

 

  • Emma Hagerty, BIP Aneurin Bevan
  • Rebecca Bowen, BIP Caerdydd a’r Fro - CAMHS
  • Manon Lewis

2.  Cofnodion y cyfarfod diwethaf

 

 Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir.

4. Y wybodaeth ddiweddaraf am waith ymgyrchu Beat

Rhoddodd Jo y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau ymgyrchu Beat ers cyfarfod diwethaf y Grŵp Trawsbleidiol ym mis Mehefin. 

Arferion gorau

Dywedodd Jo fod y sylw ar hyn o bryd ar elfen triniaeth ddwys i gleifion allanol yr ymgyrch arferion gorau.  Eglurodd Jo fod yr ymgyrch triniaeth ddwys i gleifion allanol yn ymgyrch ledled y DU sy'n ceisio sicrhau bod triniaeth ddwys i gleifion allanol, gan gynnwys triniaeth ddydd a thriniaeth yn y cartref, ar gael i bawb y mae ei hangen arnynt, yn eu cymuned leol.

Mae Beat wedi sefydlu bwrdd cynghori sy’n cynnwys clinigwyr o wahanol rannau o'r DU a fydd yn cynghori ar ddatblygu'r ymgyrch.  Mae Beat yn diweddaru'r adolygiad o lenyddiaeth a gwblhawyd fel rhan o'r papur ar driniaeth ddwys i gleifion allanol a gyhoeddwyd yn 2019.

Cynhelir gweithdy rhithwir hanner diwrnod ar hyn ar 12 Rhagfyr.

 

Calorïau ar fwydlenni

Dywedodd Jo fod Beat wedi cynnal sesiwn galw heibio i Aelodau o’r Senedd ym mis Gorffennaf, ar y cyd â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion a'r Coleg Nyrsio Brenhinol, lle y rhannwyd pryderon am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer labelu calorïau ar fwydlenni yng Nghymru. Daeth llawer o Aelodau o’r Senedd i'r digwyddiad - tua 50 y cant o'r holl Aelodau.

 

Cynhaliwyd y digwyddiad ar ôl i’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl gyhoeddi y byddai Llywodraeth Cymru yn gohirio ei chynlluniau i’w gwneud yn orfodol labelu calorïau ar fwydlenni hyd nes y ceir canlyniad gwaith ymchwil sy’n mynd rhagddo i'r effaith y mae deddfwriaeth o'r fath wedi'i chael yn Lloegr ar bobl sydd ag anhwylderau bwyta. 

 

Bydd Beat, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i rannu llais arbenigwyr drwy brofiad a chadw effaith y ddeddfwriaeth bosibl hon ar yr agenda wleidyddol.

 

Gweithredu adolygiad o wasanaethau anhwylderau bwyta Cymru 2018

Dywedodd Jo fod Beat wedi cyflwyno llythyr agored yn ddiweddar i’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl i’w hatgoffa o ganfyddiadau adroddiad 3 blynedd yn ddiweddarach Beat.  Canfu'r adroddiad fod y cynnydd o ran gwireddu'r weledigaeth a amlinellir yn adolygiad 2018 wedi bod yn araf ac yn anwastad, gan barhau â'r loteri cod post y mae pobl yn ei hwynebu wrth geisio cael cymorth yng Nghymru.

 

Cafodd y llythyr ei gyd-lofnodi gan bron i 400 o bobl o Gymru a oedd yn galw am weithredu ar frys.  Dywedodd Jo fod llawer o'r bobl a lofnododd y llythyr wedi rhannu eu profiadau o gael triniaeth yng Nghymru, ac er bod rhywfaint o'r adborth hwn yn galonogol, roedd llawer o'r adborth yn destun siom a phryder.  Mae Beat yn aros am ymateb gan y Dirprwy Weinidog.

5. Y wybodaeth ddiweddaraf gan yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar Anhwylderau Bwyta

Rhoddodd Tamsin Speight gyflwyniad ar y gwaith y mae wedi bod yn ei wneud ers dechrau yn ei swydd fel Arweinydd Clinigol ym mis Ebrill.

 

Eglurodd Tamsin fod Gweithrediaeth y GIG newydd ei sefydlu pan ddechreuodd yn y swydd, a bod ei rôl wedi ymwneud i raddau helaeth hyd yma â gweithio gyda chydweithwyr i sefydlu tîm Iechyd Meddwl llawn.  Ers diwedd mis Tachwedd, mae swydd Tamsin yn un amser llawn, yn hytrach na'r ddau ddiwrnod yr wythnos yr oedd yn eu gweithio i ddechrau, ac mae'n gweithio ochr yn ochr â Rheolwr Rhaglen a Swyddog Prosiect.

 

Diben Gweithrediaeth y GIG yw darparu arweinyddiaeth gref a chyfeiriad strategol a fydd yn galluogi, yn cynorthwyo ac yn cyfarwyddo'r GIG yng Nghymru i weddnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.  

 

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi mandad blynyddol i Weithrediaeth y GIG. Ar gyfer anhwylderau bwyta, y cylch gwaith eleni yw gwella ymyrraeth gynnar a chyrraedd y targed 4 wythnos ar gyfer amseroedd aros am asesiad a thriniaeth.  Eglurodd Tamsin fod cynorthwyo’r byrddau iechyd i gyflawni'r mandad hwn yn rhan allweddol o’i rôl.  Felly, mae Tamsin wedi canolbwyntio eleni ar fodelau ymyrraeth gynnar ac ar feddwl sut y gall Cymru sicrhau dull ymyrraeth gynnar unedig, er mwyn mynd i'r afael â'r amrywiadau y mae cleifion yn eu profi ar hyn o bryd ledled Cymru yn narpariaeth y gwasanaethau.

 

Mae’r ffrwd waith anhwylderau bwyta yn y weithrediaeth yn cydweithio'n agos â ffrydiau gwaith iechyd meddwl eraill megis gwasanaethau Amenedigol, CAMHS ac Iechyd Meddwl Oedolion.

 

Mae amryw o ysgogiadau polisi yn llywio’r ffrwd waith anhwylderau bwyta, gan gynnwys strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, Beth am siarad â fi? a Cymru Iachach. 

 

Rôl y Weithrediaeth yn y rhaglen strategol yw ysgogi gwelliannau o ran:

·      Ansawdd a diogelwch

·      Sicrhau canlyniadau, mynediad a phrofiad sy’n well ac yn fwy cyfartal

·      Lleihau amrywiadau rhwng gwasanaethau

·      Gwella iechyd meddwl yn y boblogaeth

·      Bod yn rhyngwyneb rhwng Llywodraeth Cymru, gwaith polisi a darparu gwasanaethau a chynnig cyfeiriad a chymorth i sefydliadau GIG Cymru.

Mae'r gwaith yn cael ei lywio gan y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol.  Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y rhwydwaith gweithredu clinigol ym mis Medi a bydd y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr.

 

Nododd Tamsin nad oedd y fframwaith anhwylderau bwyta gwreiddiol ar gyfer Cymru yn cynnwys diffiniadau o Anhwylder Gorfwyta mewn Pyliau nac ARFID.  Bu cynnydd yn nifer yr achosion a welir o’r ddau, ac mae hyn wedi rhoi pwysau aruthrol ar wasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru.  Mae Tamsin yn aros am eglurhad ynghylch y diffiniadau diweddaraf o anhwylderau bwyta ac a fyddant yn cynnwys Anhwylder Gorfwyta mewn Pyliau ac ARFID. 

 

Ategodd Tamsin fod y sylw ar hyn o bryd ar ymyrraeth gynnar a sicrhau model unedig i Gymru.  Mae'n cael ei drin fel blaenoriaeth am ei fod yn rhan o fandad Llywodraeth Cymru, am ei fod yn rhan ganolog o Adolygiad o Wasanaethau Anhwylderau Bwyta Cymru 2018, ac am ei fod hefyd i'w weld yn safonau ansawdd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, yng nghanllawiau NICE, yn adroddiad 3 Blynedd yn Ddiweddarach Beat ac ym mlaenoriaethau’r Byrddau Iechyd.  Dywedodd Tamsin fod gwelliannau sylweddol i’w gweld ledled Cymru, lle y gall pobl gael gafael ar wasanaethau’n gynt.  Ar hyn o bryd, mae Tamsin a'i thîm yn mapio'r gwasanaethau er mwyn deall yr amrywiadau rhwng gwasanaethau a helpu i ddatblygu model unedig ledled Cymru.  Mae'r tîm hefyd yn ceisio meithrin dealltwriaeth o’r llwybrau a’r meini prawf cyfeirio, gweithlu'r gwasanaethau ac amseroedd aros.  Mae'r tîm yn gweithio gyda dadansoddwr data i ystyried sut i gasglu'r wybodaeth hon yn gyson er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu Byrddau Iechyd.

 

Holodd Isabella (Cadeirydd cyfadran Anhwylderau Bwyta Coleg Brenhinol y Seiciatryddion) am welyau cleifion mewnol anhwylderau bwyta yng Nghymru a pha gynlluniau sydd ar waith i fynd i'r afael â hyn.  Ymatebodd Tamsin drwy ddweud bod hwn yn faes allweddol y bydd angen rhoi blaenoriaeth iddo ar ôl ymyrraeth gynnar.  Bydd rhoi sylw i ymyrraeth gynnar yn atal pobl rhag mynd yn fwy sâl yn ddiweddarach.  Cydnabu Tamsin y bydd angen triniaeth ar rai pobl fel cleifion mewnol hyd yn oed gydag ymyrraeth gynnar, a dywedodd y dylid canolbwyntio ar edrych ar driniaeth ddwys i gleifion allanol.  Nododd Tamsin fod rhai modelau da eisoes yn digwydd yng Nghymru yn hyn o beth, ac mae Tamsin a'i thîm wrthi ar hyn o bryd yn mapio hyn ac yn edrych ar sut y gellid ei gyflwyno'n genedlaethol. 

 

Nododd Isabella y bydd ymyriadau cleifion mewnol yng Nghymru yn parhau i fod yn fater nad yw wedi’i ddatrys tra na fydd gan Gymru uned cleifion mewnol yma yng Nghymru a bod penderfyniad ynghylch uned o'r fath yn destun trafod ers 15 mlynedd neu fwy.

Y wybodaeth ddiweddaraf gan Sarah Murphy

Croesawodd Jo Sarah Murphy i'r cyfarfod. 

 

Nododd Sarah ei bod yn arwyddocaol bod rôl Tamsin bellach yn un amser llawn a bod tîm yn cefnogi'r rhaglen hefyd.  Diolchodd Sarah i Tamsin am ei holl waith ers iddi ddechrau yn y swydd ym mis Ebrill. 

 

Soniodd Sarah am ei hymweliad yn ddiweddar â'r tîm CAMHS ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a'r gwaith y maent wedi'i wneud i fynd i'r afael ag ymyrraeth gynnar.  Soniodd Sarah hefyd am y gwaith trawsnewidiol sydd wedi'i wneud yn uned cleifion mewnol i bobl ifanc Tŷ Llidiard ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

 

Siaradodd Sarah hefyd am y ddadl a gynhaliwyd yn y Senedd ynghylch ei gwneud yn orfodol labelu calorïau ar fwydlenni.  Roedd cefnogaeth drawsbleidiol sylweddol yn ystod y ddadl i beidio â chyflwyno calorïau ar fwydlenni, a nododd Sarah fod Aelodau wedi siarad am yr effaith y byddai cyflwyno mesurau o'r fath yn ei chael ar bobl ag anhwylderau bwyta.  Helpodd y cyfraniadau hyn o ran canlyniad y ddadl, sef bod Llywodraeth Cymru am ohirio cynlluniau i’w gwneud yn orfodol labelu calorïau ar fwydlenni yng Nghymru hyd nes y ceir canlyniad gwaith ymchwil sy’n mynd rhagddo i'r effaith y mae deddfwriaeth o'r fath wedi'i chael yn Lloegr ar bobl ag anhwylderau bwyta.  Talodd Sarah deyrnged i'r bobl sy’n siarad o brofiad a gymerodd ran yn ymgynghoriad y llywodraeth ar hyn a'r gwaith ymgyrchu yn y maes hwn gan Beat, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a’r Coleg Nyrsio Brenhinol.

 

Nododd Sarah fod Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl, yn awyddus i fynychu un o gyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol yn y dyfodol.  Nododd Sarah hefyd ei bod ar ddeall bod Llywodraeth Cymru yn ystyried datrysiad i welyau cleifion mewnol i oedolion yng Nghymru yng Nglyn Ebwy a thros y ffin â gogledd Cymru, yng Nghilgwri, a fydd, os bydd yn digwydd, yn gam gwirioneddol ymlaen i bobl yng Nghymru y mae anhwylderau bwyta’n effeithio arnynt.  Cydnabu Sarah mai dim ond un rhan o ateb ehangach o lawer y mae ei angen yng Nghymru yw gwelyau cleifion mewnol, a nododd bwysigrwydd gwaith atal ac ymyrraeth gynnar ynghyd â pharhau i ddatblygu cymorth dwys i gleifion allanol.  Diolchodd Sarah i bawb a fu'n rhan o wahanol raglenni’r gwaith i wella gwasanaethau.

6. Mental Health Matters, trosolwg o grŵp cymorth gan gymheiriaid SORTED

Rhoddodd Donna Mason drosolwg o'r grŵp cymorth gan gymheiriaid y mae'n ei gynnal i bobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr o'r enw SortED.  Mae'r grŵp yn cael ei gynnal ar-lein ac wyneb yn wyneb ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Mae pobl o bob rhan o’r DU yn rhan o’r grŵp ar-lein ac mae'r grŵp wyneb yn wyneb yn tueddu i ddenu pobl sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr a de Cymru.  Grŵp SortED yw'r unig grŵp cymorth wyneb yn wyneb yng Nghymru.  Nid oes rhaid i bobl sy'n mynychu'r grŵp fod wedi cael diagnosis ffurfiol o anhwylder bwyta. Mae SORTED yn cynnig cyfle i gwrdd â phobl sydd o bosibl mewn sefyllfa debyg, mewn man diogel a chyfrinachol. Mae pobl yn cefnogi ei gilydd drwy rannu profiadau, syniadau, llwyddiannau a phroblemau, neu drwy wrando.

 

Cynhelir y grŵp wyneb yn wyneb am 6 o’r gloch ar nos Fercher yn swyddfa MH Matters ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a chynhelir y grŵp ar-lein rhwng 6 a 7 o’r gloch ar nos Fawrth.  Mae grŵp ar-lein i ofalwyr hefyd i bobl sy'n gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind sydd ag anhwylder bwyta.

 

I gael gwybod mwy, ewch i wefan MH Matters:  https://www.mhmwales.org.uk/Sorted.htm

 

Siaradodd Sarah am ei phrofiad o ymweld â Mental Health Matters yn fuan ar ôl iddi gael ei hethol a pha mor groesawgar a chefnogol yw'r tîm yn MHM. Dywedodd Sarah ei bod yn priodoli siwrnai ei hadferiad hi ei hun i Donna ac MHM.

 

Nododd Sarah fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn ystod y pandemig, wedi dyrannu rhywfaint o gyllid i MHM er mwyn iddynt allu parhau i gynnal y gwasanaeth, a bod tua 50 o bobl yn manteisio bryd hynny ar y cymorth yr oedd yn ei ddarparu.

 

Gofynnodd Sarah i Donna sut mae'r cymorth yn cael ei ariannu ar hyn o bryd a sut mae'n integreiddio â'r gwasanaeth anhwylderau bwyta ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

 

Eglurodd Donna ei bod wedi bod yn heriol oherwydd iddynt golli’r cysylltiadau â'r gwasanaeth haen 2 ac oherwydd diffyg cyllid.  Pwysleisiodd Donna yr hoffai MHM adfer y cysylltiadau â'r gwasanaeth haen 2 a gweithio'n agos gyda nhw.

 

Eglurodd Nia Holford, a ymunodd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ddiweddar i ailsefydlu'r gwasanaeth haen 2, mai dim ond newydd agor ei ddrysau y mae'r gwasanaeth haen 2 newydd.  Mae Nia yn awyddus i gwrdd â Donna i drafod ffyrdd o gydweithio, cyfeirio at MHM a llunio cynllun ar gyfer y dyfodol.

7. Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2024

Cadarnhaodd Jo y bydd Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta’n digwydd rhwng 26 Chwefror a 3 Mawrth 2024.  Eleni bydd yr wythnos yn gyfle i dynnu sylw at Anhwylder Osgoi/Cyfyngu o ran Bwyd (ARFID).  Cadarnhaodd Sarah y bydd yn ceisio sicrhau dadl yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta.

 

Cytunodd y grŵp y gellid cynnal cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta.  Cytunodd Sarah i wahodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl, i'r cyfarfod nesaf. Gofynnodd Jo i aelodau'r grŵp roi gwybod iddi os oes ganddynt unrhyw syniadau ac awgrymiadau eraill ynghylch unrhyw beth arall yr hoffai'r grŵp ei wneud yn ystod yr wythnos.

Rhagor o ddiweddariadau'r Senedd

Eglurodd Sarah fod James Evans AS yn llunio Bil Aelod ynghylch iechyd meddwl a nododd y bydd dadl ar 13 Rhagfyr y bydd Sarah yn cymryd rhan ynddi.

 

Cyfeiriodd Sarah yn ôl at y llythyr agored a anfonwyd at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a nododd, unwaith y ceir ymateb, y bydd copi’n cael ei ddosbarthu i aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol.

 

Diolchodd Sarah unwaith eto i bawb sy'n rhan o'r gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru i wella gwasanaethau anhwylderau bwyta a nododd ei bod yn gadarnhaol iawn fod anhwylderau bwyta’n cael y proffil a'r sylw y maent yn eu haeddu.

Adolygiad o’r camau i’w cymryd

·         Nia a Donna i adrodd yn ôl i’r Grŵp Trawsbleidiol ar ôl eu cyfarfod.

·         Sarah i weithio tuag at sicrhau dadl yn y Senedd yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta

·         Byddwn yn ceisio cynnal cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta ac yn ceisio sicrhau bod y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl yn bresennol. (Sarah / Jo)

·         Ar ôl iddo ddod i law, ymateb y Dirprwy Weinidog i’r llythyr agored i’w gylchredeg. (Jo)

Dyddiad y cyfarfod nesaf:  I’w gadarnhau